Arweiniad i’r Staff ar y Cynllun Iaith Gymraeg
Cyflwyniad
- Cymeradwywyd Cynllun Iaith Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ym mis Medi 2003
- Paratowyd y Cynllun o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993. Amlinellir yn y Cynllun sut y mae APCC yn bwriadu trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth ddelio â’r cyhoedd yng Nghymru
- Yn syml, mae hawl gan y cyhoedd yng Nghymru i dderbyn gwasanaeth gan APCC yn Gymraeg neu yn Saesneg yn ôl eu dewis
- Mae APCC wedi creu Uned Gymraeg i ddelio â ac i weithredu’r Cynllun. Mae gan yr uned swyddog penodedig, Cydlynydd y Cynllun Iaith Gymraeg, sydd yn gyfrifol am y Cynllun. Dylid pwysleisio bod y Cydlynydd ar gael i gynnig cymorth ac i’ch cynghori ar unrhyw agwedd o’r cynllun os bydd angen cymorth arnoch i’w ddehongli neu er mwyn cydymffurfio ag unrhyw ofynion
1. Ymrwymiad APCC i’r Cynllun Iaith Gymraeg
- Cymeradwywyd y Cynllun gan y Bwrdd Academaidd a’r Corff Llywodraethol cyn ei gyflwyno i Fwrdd yr Iaith Gymraeg
- Mae’r Cynllun yn cael ei weithredu ag awdurdod llawn APCC
2. Polisïau a Chynlluniau Newydd
- Dylech sicrhau bod pob cynllun a pholisi newydd yr ydych yn gweithio arno yn gyson â gofynion y cynllun lle bynnag y bo hynny’n bosib
3. Gohebiaeth Ysgrifenedig â’r Cyhoedd (gan gynnwys gohebiaeth drwy
ebost)
- Wrth gychwyn gohebiaeth gydag aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru, dylech wneud hynny yn yr iaith mae’r derbynnydd wedi’i dewis, os yw’n hysbys i chi, fel arall dylech ohebu’n ddwyieithog
- Wrth ateb gohebiaeth Gymraeg oddi wrth aelod o’r cyhoedd dylech wneud hynny’n Gymraeg
4. Cysylltu ar y ffôn
- Dylai galwadau i’r prif switsfwrdd ac i dderbynfa pob adran gael eu hateb â chyfarchiad dwyieithog. Fodd bynnag, dim ond nifer fechan o staff APCC sy’n gallu siarad Cymraeg felly hwyrach y bydd rhaid i’r sawl sy’n ffonio siarad Saesneg yng nghamau cyntaf ei ymholiad
- Mewn amgylchiadau o’r fath, dylid cyfeirio’r galwadau at aelod o’r adran sy’n siarad Cymraeg, os yw’n bosibl. Er mwyn eich helpu â hyn, mae cyfeirlyfr o staff Cymraeg APCC wedi’i greu. Er mwyn cael copi cysylltwch â’r Uned Gymraeg
- Os gall siaradwr Cymraeg ddelio â’r ymholiad ond nad yw ar gael pan dderbynnir y galwad, dylai’r galwr gael y dewis i’r siaradwr Cymraeg ei ffonio’n ddiweddarach neu barhau â’r galwad yn Saesneg
- Os nad oes siaradwr Cymraeg yn yr adran sy’n gallu ateb yr ymholiad, dylai’r galwr gael y dewis o barhau â’r galwad yn Saesneg, neu dderbyn ateb ysgrifenedig yn y Gymraeg
- Os digwydd bod ymholiad yn arbennig o gymhleth neu’n arbenigol, a’r unig aelodau o APCC sy’n gallu ateb yr ymholiad yw’r rhai nad ydynt yn gallu siarad Cymraeg, rhoddir y dewis i’r galwr dderbyn ateb ysgrifenedig yn y Gymraeg
- Os bydd anhawster dilyn y canllawiau uchod dylid trosglwyddo’r galwadau i Gydlynydd y Cynllun Iaith
- Mae hyfforddiant ar gael i bob aelod o’r staff ar sut i ddelio â galwadau trwy gyfrwng y Gymraeg
5. Cyfarfodydd Cyhoeddus a Chyfarfodydd eraill
- Rhaid i unrhyw ddeunydd sy’n hysbysu’r cyhoedd ynglyn â chyfarfodydd cyhoeddus yng Nghymru wahodd pobl, cyn y cyfarfod, i nodi pa iaith (Saesneg/Cymraeg) y maent am ei defnyddio
- Wrth drefnu cyfarfodydd cyhoeddus yng Nghymru rhaid rhoi ystyriaeth i ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd. Fe fydd yr Uned Gymraeg yn gallu’ch helpu gyda’r gwaith hwn
- Wrth drefnu cyfarfod gydag unigolyn neu grŵp a phan fyddant wedi dweud eu bod yn dymuno cynnal y cyfarfod hwnnw drwy gyfrwng y Gymraeg, naill ai dylai’r cyfarfod cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg, neu dylid darparu offer cyfieithu ar y pryd
6. Delwedd Gyhoeddus APCC
- Dylai enw a gwybodaeth gysylltiedig o ran delwedd gorfforaethol APCC (heblaw am ei logo) fod yn ddwyieithog ar yr arwyddion, y cyhoeddiadau, y cerbydau a’r deunyddiau arddangos cyhoeddus eraill i gyd yng Nghymru
- Dylai pob arwydd gwybodaeth parhaol o fewn ac yng nghwmpas adeiladau APCC fod yn ddwyieithog
- Dylai pob pennawd llythyr, slip cyfarch, bathodyn adnabod a nwyddau eraill mae APCC yn eu cynhyrchu fod yn ddwyieithog
- Dylech baratoi ffurflenni a deunyddiau esboniadol ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru yn gwbl ddwyieithog. (Gall deunydd o’r fath a ddefnyddir hefyd y tu allan i Gymru gael ei gynhyrchu ar wahân fel bod modd dosbarthu fersiynau Saesneg yn
unig)
- Dylai posteri ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus yn APCC, gan gynnwys manylion ynglŷn ag amser, dyddiad a lleoliad, fod yn ddwyieithog pa un bynnag o’r ddwy iaith y bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal drwyddi gan gynnwys cyrsiau, darlithoedd a sesiynau gyrfâu
- Dylai datganiadau i’r wasg sydd yn berthnasol i Gymru fod yn ddwyieithog ac wedi’u targedu at y wasg Gymraeg a’r wasg Saesneg. Dylai datganiadau eraill i’r wasg fod yn Saesneg
- Dylai’r datganiadau swyddogol a chyhoeddus (gan gynnwys hysbysebion swyddi) a ddosberthir yng Nghymru fod yn ddwyieithog
7. Addysg Cyfrwng Cymraeg
- Prif swyddogaeth ein cynllun iaith yw cynnal a datblygu ein darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg
- Mae gan bob Ysgol ei Gydlynydd Iaith penodedig
- Am fwy o wybodaeth ar y ddarpariaeth Gymraeg y tu mewn i bob Ysgol cyfeiriwch at y Cynllun llawn neu cysylltwch â Chydlynydd y Cynllun Iaith
8. Asesiadau Cyfrwng Cymraeg
- Bydd APCC yn cynnig asesiadau cyfrwng Cymraeg (gan gynnwys asesiadau ysgrifenedig, arholiadau, prosiectau a thraethodau hir) i bob myfyriwr
- Bydd APCC yn cynnig ac yn sefydlu’r angen am asesu drwy’r Gymraeg yn rhan o’i broses gofrestru
- Lle nad oes tiwtor/asesydd priodol sy’n siarad Cymraeg fe fydd yr Uned Gymraeg yn trefnu cyfieithiad gan gyfieithwyr cymwys sy’n gyfarwydd â’r pwnc
9. Dysgu Cymraeg
- Mae APCC yn bwriadu trefnu gwersi Cymraeg ar gyfer y myfyrwyr hynny sydd â diddordeb i ddysgu, naill ai ar gyfer dysgwyr newydd, dysgwyr profiadol neu aelodau o’r staff sydd am loywi eu hiaith. Dylai unrhyw aelod o’r staff sydd â diddordeb gysylltu â’r Uned Gymraeg
10.Y Gwasanaeth Cyfieithu
- Dylai pob darn o waith y mae angen ei gyfieithu gael ei anfon at yr Uned Gymraeg. Fe fydd yr Uned yn trefnu cyfieithiadau o safon yn gyflym ac am bris cystadleuol
- Am fwy o wybodaeth am y gwasanaeth cyfieithu ewch i wefan yr Uned neu cysylltwch â Chydlynydd y Cynllun Iaith
11. Monitro a Gweithredu’r Cynllun
- Y dirprwy Is-Ganghellor fydd â chyfrifoldeb dros weithredu’r Cynllun yn gyffredinol tra’r Uned Gymraeg fydd yn gyfrifol am reoli’r Cynllun o ddydd i ddydd
- Bydd yr Uned Gymraeg yn gyfrifol am gynhyrchu adroddiad blynyddol i’r Bwrdd Academaidd a’r Corff Llywodraethol a bydd yn cynhyrchu adroddiad hanner blynyddol i Fwrdd yr Is-Ganghellor a’r Prifathro
- Dylai unrhyw sylwadau neu gwynion parthed y cynllun cael eu hanfon at Gydlynydd y Cynllun Iaith Gymraeg, a bydd Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg yn delio â hwy. Mae’r weithdrefn hon yn adlewyrchu’r protocol sy’n bodoli eisoes wrth ddelio â chwynion
12. Cydlynydd y Cynllun Iaith
- Mae gan APCC Gydlynydd y Cynllun Iaith Gymraeg sydd wedi ei leoli yn yr Uned Gymraeg (7236:
dtiplady@uwic.ac.uk ). Ef sydd yn gyfrifol am reoli a datblygu’r Cynllun Iaith Gymraeg, sy’n cynnwys y gwasanaeth cyfieithu. Os oes angen unrhyw arweiniad, cymorth neu eglurhad ar gynnwys y llyfryn hwn neu ynglŷn ag unrhyw ran o’r Cynllun yn gyffredinol, dylech gysylltu ag ef. Mae copïau cyflawn o’r cynllun Iaith ar gael oddi wrth y Cydlynydd
Nodyn: Mae’r llyfryn hwn yn cynnwys crynodeb o brif nodweddion y cynllun ond heb fod ganddo unrhyw statws cyfreithiol. Os ydych yn teimlo nad yw’r llyfryn hwn yn rhoi arweiniad digonol neu os ydych am wybodaeth parthed y rhwymedigaethau statudol cyfeiriwch at y Cynllun ei hun.
